{"id":3,"date":"2026-03-10T10:53:57","date_gmt":"2026-03-10T10:53:57","guid":{"rendered":"http:\/\/learnervoicesurvey.com\/wp\/?page_id=3"},"modified":"2026-04-16T08:12:41","modified_gmt":"2026-04-16T08:12:41","slug":"privacy-policy","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.learnervoicesurvey.com\/cy\/privacy-policy\/","title":{"rendered":"Polisi preifatrwydd"},"content":{"rendered":"<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, wedi comisiynu IFF Research i gynnal arolwg o ddysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau ac addysg oedolion yn y gymuned. Nod yr arolwg yw darparu adborth ar brofiadau dysgwyr i helpu i wella ansawdd dysgu. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio yn ystod yr ymchwil hon.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymchwil yn cael ei defnyddio'n ddienw i adrodd canfyddiadau i'ch coleg neu ddarparwr dysgu a Medr, ac i greu adroddiadau a gyhoeddir ar foddhad dysgwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Medr yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil ond ni fydd yn derbyn unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich safbwyntiau a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio gwaith Medr.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pa ddata sy'n cael ei gasglu a sut mae'n cael ei ddefnyddio?<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud \u00e2 pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan weithredu ar ran Medr, bydd IFF Research yn casglu gwybodaeth drwy arolwg. Mae IFF Research wedi'i gofrestru gyda <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth<\/a> (ICO) ac mae'n cadw at ei ganllawiau ynghylch diogelwch data.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth gynnal ymchwil gyda dysgwyr, gall IFF Research gasglu a dadansoddi'r categor\u00efau a ganlyn o ddata personol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Manylion cyswllt<\/strong> (enw, e-bost, cyfeiriad, rhif ff\u00f4n)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Manylion demograffig <\/strong>(rhyw, oed)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Manylion addysg a hyfforddiant<\/strong> (cwrs, lefel cymhwyster)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwybodaeth sy'n gysylltiedig \u00e2'r rhaglen <\/strong>(eich barn, eich profiadau a'ch safbwyntiau sy'n ymwneud \u00e2\u2019ch profiad fel dysgwr)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y data a ddarperir gennych yn yr arolwg yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil, sef, rheoli cyfranogiad yn yr arolwg, dadansoddi canfyddiadau, a chynhyrchu adroddiadau. Ni fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata na gwneud penderfyniadau awtomataidd. Bydd allbynnau o'r arolwg yn ddienw a ch\u00e2nt eu sgrinio'n ofalus cyn adrodd er mwyn sicrhau bod y risg o adnabod unigolion yn anuniongyrchol yn cael ei leihau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai y bydd IFF Research yn gofyn i chi rannu nodweddion amdanoch chi'ch hun sy'n dod o dan y categori 'data categori arbennig' fel y'i diffinnir o dan GDPR y DU. Golyga hyn ddata fel eich ethnigrwydd neu unrhyw anableddau sydd gennych. Os ydych chi'n rhannu data sy'n dod o dan ddata categori arbennig yn ystod y broses arolwg, bydd y data hwn yn cael ei drin gyda mesurau diogelu ychwanegol yn unol \u00e2 gofynion GDPR y DU.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni fydd IFF Research yn rhannu eich data personol gyda Medr. Fodd bynnag, os yw IFF Research yn poeni am eich diogelwch neu ddiogelwch rhywun arall, efallai y bydd angen iddynt rannu eich gwybodaeth gyda Medr a fydd yn cysylltu \u00e2'ch darparwr fel y gallant helpu i'ch cadw'n ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth yw'r sail gyfreithlon dros gasglu eich data?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth a ddarperir yn ystod yr ymchwil yw ein tasg gyhoeddus fel y'i nodir o dan Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU, lle mae prosesu data personol yn 'angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.' <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal, mae'r ymchwil hefyd yn dibynnu ar sail gyfreithlon 'caniat\u00e2d', fel y nodir o dan Erthyglau 6(1)(a) GDPR y DU ar gyfer data personol a 9(2)(a) ar gyfer data categori arbennig, lle mae cyfranogiad a gwybodaeth a rennir yn yr arolwg yn gwbl wirfoddol. Mae hyn yn golygu nad oes gofyniad i chi gymryd rhan, a gallwch ddewis tynnu'n \u00f4l o'r arolwg ar unrhyw adeg. Os hoffech i'ch ymatebion i\u2019r arolwg gael eu tynnu o'r cofnodion ymchwil ar \u00f4l cwblhau'r arolwg, anfonwch e-bost at learnervoicesurvey@iffresearch.com yn nodi eich cais, a bydd IFF Research yn dileu eich ymatebion i\u2019r arolwg o'u cofnodion.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pa mor ddiogel yw eich data personol?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i IFF Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn a all gyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd IFF Research yn defnyddio'r data hwn. Mae gan IFF Research ardystiad Cyber Essentials ac ISO \/ IEC 27001.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan IFF Research weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod toriad yn digwydd, bydd IFF Research<em> <\/em>yn rhoi gwybod i Medr a fydd yn eich hysbysu (drwy eich coleg neu ddarparwr dysgu) ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pa mor hir y cedwir eich data personol?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd IFF Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, sef tan fis Gorffennaf 2029, a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan IFF Research o fewn chwe mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Hawliau unigol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas \u00e2'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r arolwg hwn, yn benodol, mae gennych yr hawl:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;<\/li>\n\n\n\n<li>I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;<\/li>\n\n\n\n<li>I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);<\/li>\n\n\n\n<li>I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau).<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan bob un o'r hawliau hyn gyfyngiadau penodol yn dibynnu ar y cais ac ar ddiben ein prosesu. Mae Medr yn croesawu unrhyw ymholiadau mewn perthynas \u00e2'ch hawliau. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/uk-gdpr-guidance-and-resources\/individual-rights\/individual-rights\/rights-related-to-automated-decision-making-including-profiling\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ICO<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch \u00e2'n Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gelwir yr hawl i ofyn am gopi o'ch gwybodaeth bersonol fel gwneud cais gwrthrych y data. Mae gennych hawl i wybod pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, a gallwch wneud y cais hwn, yn ysgrifenedig, i unrhyw un o'n gweithwyr neu drwy <a href=\"mailto:SwyddogDiogeluData@medr.cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">SwyddogDiogeluData@medr.cymru<\/a>. Bydd angen i ni gadarnhau eich hunaniaeth er mwyn prosesu eich cais.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cwynion am y defnydd o'ch data personol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Medr wedi ymrwymo'n llwyr i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol \u00e2 deddfwriaeth diogelu data, ond maent yn croesawu unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud \u00e2 phrosesu eich data a byddant yn gwrando ar unrhyw bryderon sydd gennych.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych chi'n anhapus \u00e2'r ffordd y mae Medr wedi ymdrin \u00e2'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch \u00e2 ni ar <a href=\"mailto:SwyddogDiogeluData@medr.cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">SwyddogDiogeluData@medr.cymru<\/a> a bydd Medr yn ceisio datrys eich problem yn anffurfiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os nad yw Medr yn gallu datrys y mater i'ch boddhad, gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef rheoleiddiwr diogelu data'r DU.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-vertical is-layout-flex wp-container-core-group-is-layout-831b2db5 wp-block-group-is-layout-flex\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wycliffe House,<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Water Lane,<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wilmslow,<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cheshire,<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">SK9 5AF.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ff\u00f4n: 0303 123 1113<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwefan: <a href=\"http:\/\/www.ico.gov.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.ico.gov.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr e-bost cyswllt ar gyfer Medr fel Rheolwr Data yw <a href=\"mailto:dataprotectionofficer@medr.cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">dataprotectionofficer@medr.cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr e-bost cyswllt ar gyfer IFF Research yw Marie Gallagher, <a href=\"mailto:learnervoicesurvey@iffresearch.com\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">learnervoicesurvey@iffresearch.com<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyfeirnod cofrestru diogelu data Medr yw ZB552558. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 7 Ebrill 2026.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:16px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"terms\"><strong>Telerau ac amodau'r gystadleuaeth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Arolwg Llais y Dysgwr: cystadleuaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>1. Hyrwyddwr:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae IFF Research yn cynnal yr Arolwg Llais y Dysgwyr ar ran Medr ac mae'n gyfrifol am gynnal y gystadleuaeth mewn perthynas \u00e2'r arolygon hyn. Mae IFF yn gwmni sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif cofrestredig 00849983, y mae ei swyddfeydd cofrestredig wedi'u lleoli yn 5<sup>ed<\/sup>&nbsp;Llawr, The Harlequin Building, 65 Southwark Street, Llundain, SE1 0HR.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>2. Cymhwysedd:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae'r gystadleuaeth yn agored i ddysgwyr ar gyrsiau cymwys sy'n cymryd rhan yn yr arolwg ar-lein, dros y ff\u00f4n neu drwy lenwi a dychwelyd copi wedi\u2019i argraffu o'r holiadur i IFF Research.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw'r gystadleuaeth yn agored i weithwyr IFF Research.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>3.<\/strong>&nbsp;<strong>Cyfnod hyrwyddo:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Derbynnir ceisiadau yn ystod cyfnod gwaith maes yr arolwg. Disgwylir i gyfnod yr arolwg redeg o 13 Ebrill a phara tan 15 Mai. Bydd un wobr ar gyfer pob darparwr dysgu, ac iPad safonol fydd pob gwobr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>4. Mynediad:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cofrestrwch drwy dicio neu ddweud yr hoffech gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ar ddiwedd yr arolwg. Nid oes angen prynu na thalu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>5. Cyfyngiadau ar geisiadau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dim ond un cais fydd yn cael ei dderbyn fesul dysgwr cymwys. Bydd ceisiadau awtomataidd, ceisiadau swmp neu geisiadau trydydd parti yn cael eu gwahardd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>6. Gwobrau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd un enillydd ar gyfer pob darparwr dysgu, gan dderbyn un iPad safonol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cysylltwch \u00e2'r t\u00eem ymchwil ar <a href=\"mailto:learnervoicesurvey@iffresearch.com\">learnervoicesurvey@iffresearch.com<\/a> os oes gennych unrhyw ymholiadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni chaniateir trosglwyddo neu aseinio gwobrau. Nid oes arian parod na dewis amgen arall.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>7. Dewis enillydd:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis drwy raffl ar hap o'r holl geisiadau cymwys ym mhob darparwr. Bydd y raffl ar hap yn cael ei wirio gan arsylwr sy'n annibynnol ar y t\u00eem ymchwil sy'n cynnal y gystadleuaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae IFF Research yn cadw'r hawl i ohirio pob raffl tan ddyddiad diweddarach heb rybudd. Mae pob penderfyniad yn derfynol ac yn rhwymol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>8. Hysbysu:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd IFF yn cysylltu \u00e2'r enillwyr i roi gwybod iddynt eu bod wedi bod yn llwyddiannus o fewn uchafswm o chwe wythnos i ddyddiad y raffl. Bydd hysbysiad yn cael ei anfon i gyfeiriad e-bost yr enillwyr, neu drwy alwad ff\u00f4n, fel y bo'n briodol. Gall yr enillwyr ddewis aros yn ddienw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd gwobrau'n cael eu gweinyddu gan IFF Research a bydd angen i enillwyr ddarparu eu cyfeiriad post er mwyn gallu anfon y wobr atynt. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anfon y wobr yn unig a bydd yn cael ei ddileu'n ddiogel o'n systemau heb fod yn hwyrach na chwe mis ar \u00f4l dyddiad y raffl.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Medr, the Commission for Tertiary Education and Research in Wales, has commissioned IFF Research to carry out a survey of learners in further education, apprenticeships and adult community learning. The aim of the survey is to provide feedback on learners\u2019 experiences to help improve the quality of learning. This privacy notice explains how your personal [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-3","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.learnervoicesurvey.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.learnervoicesurvey.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.learnervoicesurvey.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.learnervoicesurvey.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.learnervoicesurvey.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/www.learnervoicesurvey.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":213,"href":"https:\/\/www.learnervoicesurvey.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3\/revisions\/213"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.learnervoicesurvey.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}