Dysgwyr

Beth yw Arolwg Llais y Dysgwr?

Bydd Arolwg Llais y Dysgwr yn arolwg cenedlaethol newydd i ddysgwyr ledled Cymru sydd mewn addysg ôl-16 neu hyfforddiant. Cafodd ei greu er mwyn deall beth yw barn dysgwyr am eu cyrsiau, cymorth, lles a phrofiadau dysgu cyffredinol. Y nod yw darganfod beth sy’n gweithio’n dda a beth allai gael ei wella, fel bod dysgu’r dyfodol ledled Cymru ar ei orau.

Pwy sy’n cynnal yr arolwg?

Mae’r arolwg yn cael ei ddatblygu a’i gynnal gan IFF Research, sy’n sefydliad ymchwil annibynnol, ar ran Medr, sy’n ariannu a rheoleiddio addysg ôl-16 ac sydd eisiau sicrhau bod y dysgwyr i gyd yn derbyn addysg, cymorth a chyfleoedd o safon uchel.

Pam mae’n bwysig

Mae eich barn a’ch profiadau chi’n helpu i siapio dyfodol dysgu yng Nghymru. Mae’r arolwg wedi’i lunio gan ddefnyddio adborth uniongyrchol gan ddysgwyr, gan sicrhau bod y cwestiynau’n adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i chi. Bydd y canfyddiadau’n helpu Medr a’ch darparydd dysgu i ddeall beth sy’n werthfawr i ddysgwyr, gan dynnu sylw at feysydd i’w gwella a chefnogi penderfyniadau gwell ar draws y sector.


Sut i gymryd rhan

Mae’r arolwg ar-lein.

Gallwch ei gwblhau gan ddefnyddio ffôn, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur. Mae gwahanol ffyrdd o agor yr arolwg:

  • Os byddwch yn derbyn e-bost am yr arolwg, cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost.
  • Os byddwch yn gweld poster am yr arolwg, sganiwch y cod QR gyda’ch ffôn neu dabled, neu teipiwch y cyfeiriad gwe i far cyfeiriad eich porwr.

Unwaith y byddwch wedi agor yr arolwg, dewiswch ym mha iaith yr ydych eisiau ei gwblhau a chliciwch Nesaf. Gallwch ateb gan ddefnyddio’r sgrin cyffwrdd ar eich ffôn neu dabled, neu ddefnyddio llygoden neu fysellfwrdd.

Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch chi i gwblhau’r arolwg, siaradwch â’ch tiwtor, neu gwelwch ein Cwestiynau Cyffredin.

Mae'r fideo esboniadol hwn yn crynhoi'r wybodaeth allweddo.

Oes angen cymorth arnoch chi neu oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych gwestiynau am yr arolwg neu sut y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio, gwelwch ein Cwestiynau Cyffredin neu siaradwch â’ch tiwtor.

Sut y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri:

  • Mae eich atebion yn gyfrinachol
  • Ni fydd Medr yn derbyn unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi
  • Yr unig ffordd y bydd popeth a rannwch â ni’n cael ei ddefnyddio yw i wella Arolwg Llais y Dysgwr a phrofiadau ehangach y dysgwr – byth ar gyfer marchnata neu wneud penderfyniadau awtomataidd
  • Mae’r data i gyd yn cael ei wneud yn ddienw cyn cael ei adrodd fel nad oes modd adnabod unrhyw unigolyn ohono
  • Mae’r gyfranogaeth yn gwbl wirfoddol, a gallwch dynnu allan unrhyw bryd

Mae IFF Research yn storio data’n ddiogel ac yn dilyn canllawiau GDPR tynn y DU. Dim ond ymchwilwyr wedi’u hawdurdodi sy’n gallu gweld eich gwybodaeth, ac mae’r data personol i gyd yn cael ei ddileu o fewn y llinellau amser sydd wedi eu nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd.

Cwestiynau Cyffredin

Pwy all gymryd rhan?

Dysgwyr ar draws addysg ôl-16 yng Nghymru, yn cynnwys addysg bellach, prentisiaethau ac addysg oedolion.

Beth yw fy rhif adnabod dysgwr? Ble allaf i ddod o hyd i fy rhif adnabod dysgwr?

Mae hwn yn rhif a roddwyd i chi o bosib pan oeddech chi’n cofrestru / llofnodi i gychwyn ar y cwrs. Gallai fod ar eich cerdyn myfyriwr, neu lythyr gan y darparydd yn cadarnhau eich cofrestriad, neu e-bost gan eich darparydd dysgu yn cadarnhau eich bod yn gwneud y cwrs. Gallwch hefyd ofyn i’ch tiwtor am gymorth os nad ydych yn gwybod eich rhif adnabod dysgwr.

Os nad oes rhif adnabod dysgwr gennych, byddwch chi’n dal i allu gwneud yr arolwg.

Pam ydw i’n cael fy ngwahodd?

Am fod eich profiadau’n bwysig. Mae’r arolwg wedi’i fwriadu i adlewyrchu’r hyn y mae dysgwyr yn ei feddwl go iawn, ac mae eich llais yn helpu i siapio penderfyniadau’r dyfodol.

Pam mae gofyn i mi roi fy manylion cysylltu?

Gofynnir i chi ddarparu eich manylion cysylltu er mwyn eich rhoi chi yn y gystadleuaeth i ennill iPad. Dim ond nifer bychan o bobl sy’n gweithio yn IFF Research fydd yn gweld y manylion cysylltu a rowch chi, a’r unig bryd y byddant yn cael eu defnyddio yw i gysylltu â chi ar gyfer y gystadleuaeth.

Ydy hyn yn wirfoddol?

Ydy, mae’r arolwg yn wirfoddol – ond mae’n bwysig bod cynifer o bobl â phosib yn cwblhau’r arolwg hwn. Y rheswm am hyn yw y gallwn gasglu barnau gwahanol ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael allan.

A yw’r arolwg hwn yn dilyn y rheolau am ddiogelwch data?

Ydy, mae’r arolwg hwn yn dilyn yr holl reolau am ddiogelwch data. Bydd yr holl atebion a rowch yn yr arolwg yn cael eu cadw’n gwbl ddiogel.

Os byddwch chi eisiau gweld yr atebion yr ydych wedi eu rhoi yn yr arolwg, neu os byddwch chi eisiau newid eich atebion neu eisiau i’ch atebion gael eu dileu, mae hynny’n iawn. Gallwch ddarganfod sut i wneud hyn ar wefan IFF Research.

A oes ffyrdd gwahanol y gallaf wneud yr arolwg?

Oes, mae gwahanol ffyrdd y gallwch wneud yr arolwg. Mae’r arolwg ar-lein, felly gallwch gymryd rhan gan ddefnyddio ffôn symudol, tabled, gliniadur, neu gyfrifiadur.

Mae’r arolwg llawn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Os oes angen cymorth arnoch chi i agor neu lenwi’r arolwg, gallwch siarad â thiwtor neu aelod o staff yn eich coleg, neu ddarparwr hyfforddiant. Efallai y byddant yn gallu eich cefnogi chi, er enghraifft, drwy roi fersiwn hawdd ei ddarllen neu gopi papur o’r arolwg.

Os byddwch yn ei chael hi’n anodd cwblhau’r arolwg i gyd ar unwaith, gallwch ofyn ar ddechrau’r arolwg iddynt anfon dolen newydd atoch mewn e-bost. Yna bydd hyn yn gadael i chi roi saib ar yr arolwg a’i ail gychwyn eto’n nes ymlaen, heb golli unrhyw rai o’ch atebion.

Os na allwch wneud yr arolwg ar-lein, gallwch hefyd ofyn i’ch darparydd dysgu am fersiwn papur o’r arolwg, a fydd yn Gymraeg neu Saesneg.

Os oes angen cymorth arnoch chi i lenwi’r arolwg (p’un a ydyw ar-lein neu ar bapur), siaradwch â thiwtor yn eich darparydd dysgu a gofynnwch a fydden nhw’n eich helpu chi.

Rydw i’n cael problem dechnegol gyda’r arolwg, beth ddylwn i wneud?

Os ydych yn cael problemau cael yr arolwg i weithio ar-lein, siaradwch â’ch tiwtor cwrs. Efallai y bydd yn gallu eich helpu chi neu efallai y bydd yn gallu siarad â’r cwmni ymchwil sy’n cynnal yr arolwg, a bydd y cwmni wedyn yn ceisio trwsio’r broblem.

Mae ychydig gymorth isod hefyd ar gyfer problemau technegol:

Dydw i ddim yn gallu agor yr arolwg / nid yw dolen yr arolwg yn gweithio

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn teipio dolen yr arolwg i mewn i far cyfeiriad y porwr. Bydd hwn ar frig y ffenestr, a bydd ganddo “http://” ar y dechrau. Peidiwch â theipio dolen yr arolwg i mewn i beiriant chwilio fel Google.
  • Os ydych yn defnyddio gliniadur neu gyfrifiadur, rhowch gynnig ar borwr gwahanol (e.e. Chrome neu Microsoft Edge). Os ydych yn defnyddio ffôn neu dabled gallwch sganio’r cod QR ar bosteri neu daflenni’r arolwg.

Gofynnais i ddolen arolwg unigryw gael ei e-bostio ataf, ond nid yw wedi cyrraedd

  • Edrychwch yn ffolder sothach eich e-bost – efallai ei fod yno
  • Gall gymryd hyd at awr i’r negeseuon e-bost gyrraedd – efallai y bydd yn rhaid i chi aros ychydig bach hirach
  • Efallai eich bod wedi teipio eich cyfeiriad e-bost yn anghywir – gallwch fynd yn ôl i mewn i’r arolwg a gofyn i’r e-bost gael ei anfon eto

Roeddwn i wedi rhoi saib ar yr arolwg a nawr dydw i ddim yn gallu mynd yn ôl i mewn

  • Os oeddech chi wedi gofyn am ddolen unigryw ar yr e-bost gallwch oedi ac ail gychwyn yr arolwg. Fodd bynnag, am resymau diogelwch, wedi i chi oedi bydd angen i chi aros am 15 munud cyn i chi fynd yn ôl i mewn i’r arolwg.
  • Os nad oeddech wedi gofyn am ddolen unigryw, os byddwch yn cau’r arolwg bydd angen i chi ddechrau eto. Gallwch ddechrau’r arolwg eto drwy glicio ar y ddolen yn yr e-bost gan eich darparydd, neu drwy deipio cyfeiriad yr arolwg i mewn o’r posteri neu daflenni neu sganio’r cod QR.

A yw Medr yn gweld fy manylion personol?

Nac ydy. Asiantaeth ymchwil annibynnol o’r enw IFF Research sy’n cynnal yr arolwg hwn. Mae tîm bach o bobl yn gweithio yn y cwmni yma a fydd yn gallu gweld eich atebion. Nid yw’r bobl yma’n cael defnyddio eich atebion ar gyfer unrhyw beth arall heblaw’r ymchwil. Ni fydd eich darparydd dysgu’n gallu gweld eich atebion unigol. Dim ond canfyddiadau dienw fydd yn cael eu trosglwyddo i Medr.

Ond, os byddwch yn datgelu rhywbeth yn eich atebion sy’n awgrymu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl neu dan risg o niwed, efallai y bydd angen i’r tîm ymchwil gymryd camau gweithredu priodol i sicrhau eich diogelwch.

Ydw i’n cael unrhyw beth am gymryd rhan yn yr arolwg hwn?

Trwy gymryd rhan yn yr arolwg, byddwch yn helpu i wella profiad y dysgwr yn eich coleg neu ddarparydd ac yn cefnogi newidiadau positif i ddysgwyr y dyfodol ledled Cymru. Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg ac yn darparu eich manylion cysylltu, byddwch yn cael eich rhoi mewn cystadleuaeth i ennill iPad. Bydd yr enwau buddugol yn cael eu tynnu ar ddiwedd y gwaith maes, a bydd un enillydd o bob darparydd yn cael eu dewis ar hap.

Beth fydd IFF yn ei wneud gyda’r atebion i gyd?

Pan fydd yr arolwg wedi gorffen, bydd yr atebion i gyd gan ddysgwyr ymhob un o’r gwahanol ddarparwyr dysgu yng Nghymru’n cael eu cyfuno a’u dadansoddi i gynhyrchu adroddiadau i’ch darparydd dysgu yn ogystal ag adroddiad cenedlaethol. Bydd yr adroddiad yn dweud pethau fel “roedd 80% o bobl yn meddwl bod y cymorth a gawsent ar gyfer dysgu’n dda.” Ni fydd yr adroddiad yn crybwyll enw unrhyw un.

Gyda phwy ga i gysylltu ynglŷn â’r cwestiynau?

Ar gyfer cwestiynau prosiect: IFF Research - learnervoicesurvey@iffresearch.com
Ar gyfer cwestiynau preifatrwydd SwyddogDiogeluData@medr.cymru

Pam mae’r arolwg yn gofyn am fy rhif adnabod dysgwr?

Mae’r arolwg yn gofyn i chi am eich rhif adnabod dysgwr fel bod IFF Research yn gallu ychwanegu gwybodaeth am y cwrs yr ydych yn ei wneud ar ôl i chi gwblhau’r arolwg. Mae hyn yn golygu nad oes angen i ni ofyn i chi am y wybodaeth hon yn yr arolwg.