
Gair am Arolwg Llais y Dysgwr
Mae Arolwg Llais y Dysgwr wedi ei gomisiynu gan Medr, y Comisiwn dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru. Mae’n elfen ganolog yn null Medr o ddeall a gwella dysgu ledled sector addysg drydyddol Cymru. Bydd yr arolwg yn darparu tystiolaeth gadarn i Medr am brofiadau dysgwyr, gan alluogi rheoleiddio, sicrhau ansawdd a gwelliant dysgwr-ganolog ar draws y sector.
Mae’r arolwg yn cael ei ddarparu gan IFF Research, ac mae ganddyn nhw brofiad estynedig o gynnal arolygon addysg graddfa fawr, ymchwil dwyieithog, cysylltu data lefel uwch, ac adrodd cymhleth ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus.
Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal yn flynyddol, gyda phob cylchred yn cynnwys cyflwyniad cyflawn i ddarparwyr, monitro ymatebion byw, dadansoddiad cynhwysfawr, ac adrodd ar lefel genedlaethol a lefel y darparwyr.
Beth mae darparwyr yn ei gael o’r arolwg hwn
Er bod nifer o ddarparwyr yn cynnal eu harolygon dysgwyr eu hunain yn barod, mae’r Arolwg Llais y Dysgwr cenedlaethol hwn yn cynnig manteision amlwg nad oes modd eu cyflawni drwy arolygon lleol yn unig.
- Meincnodi drwy’r sector cyfan drwy ddangosfwrdd rhyngweithiol, yn galluogi cymhariaeth â darparwyr tebyg ledled Cymru.
- Adrodd clir, dwyieithog drwy ddangosfwrdd wedi’i ddatblygu’n broffesiynol, gyda manylion fesul grŵp dysgwyr a math o gwrs.
- Data cadarn, cenedlaethol gyson, yn defnyddio dulliau safonol a phwysoli i adlewyrchu’r boblogaeth dysgwyr.
- Cipolwg mwy cyfoethog drwy gysylltu data, gyda’r gallu i gysylltu â Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR).
- Dealltwriaeth ddyfnach o brofiad y dysgwr, yn defnyddio dadansoddiad lefel uwch i adnabod patrymau a gyrwyr allweddol.
- Tystiolaeth annibynnol, ddibynadwy, wedi ei chefnogi gan sicrhad ansawdd a chyfleoedd i rannu dysgu drwy weithdai adborth.
Sut mae’n gweithio?
Gweinyddu arolwg blynyddol
I gynnal yr arolwg mae pob darparydd cymwys yn gwahodd eu dysgwyr i gymryd rhan. Bob blwyddyn, mae’r broses yn dechrau gydag:
- Anfon e-bost cyhoeddi’r arolwg at yr holl ddarparwyr a rhanddeiliaid
- Gweminarau cyflwyniadol (dau slot byw a fersiwn wedi’i recordio) yn esbonio prosesau’r arolwg ac yn ateb cwestiynau
Dolenni’r arolwg a’i ddosbarthiad
Mae pob darparydd yn derbyn:
- Anfon Dolen arolwg ar-lein dwyieithog sy’n gallu cynnwys brandio’r darparydd
- Cysylltiadau ychwanegol ar gyfer campysau neu is-gontractwyr gwahanol lle bo angen
Ar gyfer y peilot hwn, dylai darparwyr rannu dolen yr arolwg yn eang gyda’r holl ddysgwyr 16+ oed mewn colegau, prentisiaethau ac addysg oedolion.
Yn y camau dilynol, bydd yr arolwg yn cael ei rannu gyda’r holl ddysgwyr yng Nghymru sydd, ar y pwynt hwnnw mewn amser, yn gwneud addysg drydyddol yn cynnwys Addysg Bellach, prentisiaethau ac Addysg Oedolion yn y Gymuned. Bydd ymarfer peilot ar wahân yn cael ei wneud gyda chweched dosbarth mewn lleoliadau ysgol yn 2027.
Sut mae dysgwyr yn cwblhau’r arolwg
- Mae’r arolwg yn digwydd ar-leinyn bennaf, mae’n addas i ffonau symudol, ac mae’n hygyrch
- Gall y dysgwyr hefyd gwblhau holiaduron papur (y prif fersiwn neu fersiwn hawdd ei ddarllen) lle nad yw’n bosibl cwblhau ar-lein
- Gall y dysgwyr i gyd agor fformatau Cymraeg a Saesneg
Mae pecynnau holiadur papur yn cael eu darparu i ddarparwyr, gyda darpariaeth wedi ei adeiladu i mewn i’r prosiect ar gyfer fformatau safonol a hawdd eu darllen.
Monitro byw
Mae darparwyr yn cael mynediad at ddangosfwrdd ar-lein byw, sy’n cael ei adnewyddu’n ddyddiol, gan ddangos:
- Nifer y rhai sydd wedi eu cwblhau
- Mesuriadau lefel uchel heb eu pwysoli
Mae hyn yn helpu darparwyr i dracio’r gyfranogaeth a threfnu i atgoffa dysgwyr.
Beth sydd angen i ddarparwyr ei wneud
1. Dosbarthu dolen yr arolwg
- Bydd gofyn i chi rannu eich dolen arolwg benodol i ddarparydd gyda’r holl ddysgwyr cymwys.
- Bydd IFF yn darparu templedi o negeseuon, deunyddiau hyrwyddo, a Phecyn Cyfarwyddiadau’r Arolwg cynhwysfawr yn esbonio’r llwybrau dosbarthu a argymhellir a’r arferion gorau o ran ymgysylltu.
2. Annog dysgwyr i gwblhau’r arolwg
Sicrhau bod y canfyddiadau’n ddefnyddiol ac yn cynrychioli pawb:
- Hyrwyddo’r arolwg mewn sesiynau dysgu
- Defnyddio posteri, sgriniau digidol a chyfryngau cymdeithasol
- Annog tiwtoriaid i grybwyll yr arolwg yn y dosbarth neu mewn cyfarfodydd dysgwyr
- Anfon e-bost a negeseuon atgoffa SMS a ddarperir yn y pecyn cyfarwyddiadau
Mae’r arolwg yn cynnwys cystadleuaeth i ennill iPad, gyda gwobr i rywun o bob darparydd, yn rhan o’r strategaeth hyrwyddo traws-ddarparydd.
3. Monitro cyfraddau cwblhau
Gan ddefnyddio’r dangosfwrdd byw, gall darparwyr wirio lefelau ymateb drwy gydol y gwaith maes.
Mae IFF yn monitro’r lefelau cwblhau cyffredinol ar lefel Cymru ac yn cefnogi darparwyr i gynyddu’r nifer sy’n mynd ati i gwblhau’r arolwg.
4. Darparu fformatau amgen ar gyfer hygyrchedd
I sicrhau nad yw unrhyw ddysgwr yn cael ei adael allan, gall y darparwyr gefnogi dysgwyr drwy gynnig:
- Holiaduron papur
- Fformatau hawdd eu darllen
- Fersiynau dwyieithog
- Cymorth gyda nodweddion hygyrchedd fel darllenwyr sgrin a newid maint testun gyda’r porwr
Y cymorth sydd ar gael i ddarparwyr
Y tîm cysylltu
Gall bob darparydd gysylltu â thîm cyswllt IFF sy’n gyfrifol am:
- Ymateb i ymholiadau
- Cadarnhau nifer yr holiaduron papur
- Symud problemau i’r lle cywir i gael sylw’n brydlon
- Cadw cofnod o’r holl gwestiynau gan ddarparwyr er mwyn gwella arweiniad yn y dyfodol
Anfon Mae e-bost desg gymorth, sy’n cael ei fonitro bob dydd, ar gael hefyd drwy gydol y gwaith maes.
Pecyn cyfarwyddiadau a gweminarau
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cyfarwyddiadau manwl ar gyfer dosbarthu’r arolwg
- Defnyddiau hyrwyddo
- Cwestiynau cyffredin
- Arweiniad samplu (os yw’n berthnasol)
- Llinellau amser ac amserlen gwaith maes
Sut y bydd canfyddiadau’n cael eu defnyddio a’u hadrodd
Cysylltu data
Bydd ymatebion yr arolwg yn cael eu cysylltu’n ddiogel â’r Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) i wella cywirdeb dadansoddiad a lleihau dyblygu cwestiynau i ddysgwyr.
Mae’r cysylltiad hwn yn galluogi pwysoli, is-ddadansoddiad mwy cyfoethog, ac adrodd cyson.
Dadansoddi ac adrodd
Bydd y darparwyr yn derbyn:
- Tablau data lefel y darparydd wedi’u pwysoli
- Canlyniadau darparwyr-benodol ar y dangosfwrdd adrodd
- An Pecyn cyflwyno all-lein yn crynhoi a meincnodi eu canfyddiadau
- Adrodd dwyieithog lefel genedlaethol, yn cynnwys cyfres ddata Cymru gyfan, adroddiad technegol a chrynodeb gweithredol
Bydd dau ddadansoddiad thematig ychwanegol y flwyddyn yn cael eu darparu hefyd.
Cwestiynau Cyffredin
Pam na all IFF weinyddu’r arolwg gwaelodlin eu hunain?
Nid yw IFF yn gallu gweinyddu’r arolwg gwaelodlin yn uniongyrchol oherwydd nid oes gennym fynediad at fanylion cysylltu dysgwyr.
A fydd darparwyr yn gallu gweld pa ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r arolwg a pha rai sydd ddim?
Bydd – byddwn yn dosbarthu copi cyfeirio o’r holiadur i bob darparydd. Os nad ydych wedi derbyn hwn, chysylltwch â’ch Swyddog Cyswllt yn IFF os gwelwch yn dda.
Beth mae gweinyddu’r arolwg yn ei gynnwys?
Gallwch ddod o hyd i fanylion ar sut i weinyddu’r arolwg ar brif dudalen darparydd y wefan hon, neu i gael rhagor o wybodaeth gwelwch y PDF arweiniad llawn sy’n cael ei anfon at bob darparydd gan IFF Research. Os nad oes gennych y PDF arweiniad, cysylltwch â’ch Cysylltydd IFF yn lvsqueries@iffresearch.com.
A fydd darparwyr yn gallu gweld pa ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r arolwg a pha rai sydd ddim?
Na, allwn ni ddim dangos pa ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r arolwg am fod rheolau diogelu data’n golygu bod angen i ni gadw hyn yn gyfrinachol.
I bwy ddylen ni roi’r arolwg?
Mae dysgwyr yn eich sefydliad yn gymwys i gymryd rhan yn yr arolwg os ydyn nhw mewn:
- Addysg Bellach (AB)
- Prentisiaethau
- Addysg Oedolion yn y Gymuned
Os yw’r darparwyr yn ansicr am gymhwysedd unrhyw rai o’ch carfannau, cysylltwch â thîm cyswllt IFF.
Mae Medr yn awyddus i ddeall manteision yr holl ddysgu felly rydym yn gofyn i chi gynnwys unrhyw ddysgwyr sy’n gofrestredig mewn unrhyw ddysgu sy’n cael ei ariannu gan Medr.
Pa gyfradd ymateb ydych chi’n ei ddisgwyl? A fydd darparwyr yn derbyn targedau gwaelodlin ar gyfer cyfradd ymateb yr arolwg, ac a fyddan nhw’n cael eu cosbi os na fyddant yn cyrraedd y targedau hyn?
Mae Medr yn gofyn i ni gefnogi darparwyr i gyrraedd cyfradd ymateb targed o 50%. Gofynnir i ddarparwyr ddosbarthu’r arolwg i’r dysgwyr i gyd, eu hatgoffa a’u hannog nhw i gwblhau’r arolwg gymaint ag y bo modd.
Beth ddylen ni ei wneud os yw ein cyrsiau’n cael eu his-gontractio i ddarparwyr eraill?
Os ydych yn is-gontractio, mae hyn yn gymwys ar gyfer yr arolwg a dylid gwahodd dysgwyr sy’n gofrestredig gydag is-gontractwyr i gymryd rhan. Mae’r prif gontractwr yn gyfrifol am sicrhau bod gwybodaeth yr arolwg yn cael ei rhaeadru i is-gontractwyr a bod gwahoddiad i bob dysgwr cymwys gymryd rhan.
A fyddwch chi’n rhoi diweddariadau i ni ar faint o arolygon sy’n cael eu cwblhau bob wythnos?
Bydd gan bob darparydd fynediad at ddangosfwrdd ar-lein y gallant ei agor i weld nifer eu hymatebion byw i’r arolwg ar unrhyw bwynt wedi i’r arolwg fynd yn fyw.
Sut all dysgwyr gwblhau’r arolwg?
Mae’r arolwg wedi ei lunio i gael ei gwblhau ar-lein yn bennaf ond mae fersiynau papur ar gael i ddysgwyr sydd eu hangen nhw. Dylech ddosbarthu’r arolwg i fyfyrwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd: trwy daflen wybodaeth adeg cofrestru, trwy e-bostio dolen yr arolwg yn uniongyrchol i ddysgwyr a thrwy i diwtoriaid mewn dosbarthiadau hyrwyddo’r arolwg (a chynnig yr opsiwn i’w gwblhau yn y dosbarth os yn bosibl). Gallwch ofyn am gopïau papur o’r holiadur, gydag amlenni ateb wedi eu talu, i ddysgwyr sy’n methu cwblhau’r arolwg ar-lein ac sydd angen ei wneud ar bapur. Mae’r holiaduron papur yn gyfyngedig a bydd IFF yn cysylltu â chi o flaen llaw i roi gwybod i chi faint sydd ar gael. Peidiwch â llungopïo copïau ychwanegol os gwelwch yn dda.
A fydd darparwyr yn gallu gweld canlyniadau arolwg eu dysgwyr eu hunain?
Byddant, bydd canlyniadau’r arolwg prif gam yn cael eu rhannu gyda darparwyr penodol mewn fformat dienw / wedi casglu at ei gilydd fel eich bod yn gallu gweld y canlyniadau cyffredinol gan eich dysgwyr eich hun.
Beth ddylem ni ei wneud os bydd dysgwyr yn cael problemau’n cwblhau’r arolwg?
Mae’r arolwg wedi’i lunio i fod mor syml ag sy’n bosibl, ond rydym yn cydnabod y gallai rhai dysgwyr gael anawsterau’n ei gwblhau oherwydd problemau iaith neu lythrennedd neu ddiffyg sgiliau digidol i fynd ar-lein.
Gall dysgwyr gwblhau’r arolwg ar-lein yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Bydd nifer cyfyngedig o holiaduron papur gydag amlenni wedi eu talu o flaen llaw ar gael i ddarparwyr wedi i’r arolwg ar-lein lansio. Bydd fersiynau hygyrch i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol ar gael hefyd fel fersiynau copi caled lle bo’r angen. Gadewch i’ch swyddog cyswllt yn IFF wybod os yw eich dysgwyr yn wynebu unrhyw anawsterau gyda chwblhau’r arolwg.
Ai’r rhif myfyrwyr y mae’r arolwg yn gofyn amdano yw Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)?
Mae’r arolwg yn gofyn am eu rhif adnabod dysgwr, sef y rhif y mae darparwyr yn ei roi i’w dysgwyr wrth gofrestru (LN02). Mae’n ddefnyddiol iawn os yw’r myfyrwyr yn rhoi’r rhif hwn inni ond mae’n ddewisol yn yr arolwg.
Pwy ddylai’r dysgwyr gysylltu â nhw gyda phroblemau technegol?
Rydym yn rhagweld y bydd y mwyafrif o ‘broblemau technegol’ yn ymwneud â dysgwyr sydd ddim yn siŵr sut i gwblhau’r arolwg. Yn yr achosion hyn, dylai’r tiwtoriaid fod yn bwynt cysylltu cyntaf. I helpu i ostwng nifer yr ymholiadau sy’n cael eu cyfeirio at diwtoriaid, byddwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ddatrys problemau ar dudalen cwestiynau cyffredin gwefan y dysgwr, felly gall dysgwyr gael eu cyfeirio yno i gael cymorth ychwanegol. Dylai unrhyw broblemau technegol mawr (er enghraifft, os nad yw dysgwyr yn gallu mynd i mewn i ddolen yr arolwg) gael eu cyfeirio at y tîm yn IFF.
Rydych yn nodi bod gofyn am rif myfyriwr yn yr arolwg. Dydyn ni ddim fel arfer yn rhoi rhif adnabod dysgwr i fyfyrwyr adeg cofrestru – oes angen i ni gynhyrchu un?
Byddwn yn defnyddio’r rhif adnabod dysgwr mewn dwy ffordd - i weld a yw dysgwr wedi cwblhau’r arolwg yn barod ac nad oes angen ei wneud eto, ac i adael i ni gyfateb y data o’r arolwg i Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR).
Nid yw’n ofynnol rhoi rhif adnabod dysgwr, a bydd y dysgwyr yn gallu cwblhau’r arolwg heb un – yn yr achos hwnnw byddem yn defnyddio gwybodaeth arall (fel enw, dyddiad geni ac ati), i gyfateb pob dysgwr i’w Cofnod Dysgu Gydol Oes (LLWR).
Fodd bynnag, heb rif y dysgwr ni fyddwn yn gallu gweld pa ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r arolwg yn barod. I osgoi unrhyw faich ychwanegol ar ddysgwyr gallai fod yn ddefnyddiol pe baech chi’n dyrannu rhifau myfyrwyr i’ch dysgwyr am y rheswm hwn.
Allwn ni ffonio myfyrwyr a gwneud yr arolwg gyda nhw dros y ffôn?
Dydy hyn ddim yn rhywbeth yr ydym yn disgwyl i ddarparwyr allu ei wneud, ond rydym yn hapus mewn egwyddor i hyn ddigwydd os oes raid, ac os yw’r darparydd eisiau gwneud hynny.
Is A oes ffordd o wneud yn sicr nad yw Rhif Cyfeirio’r Dysgwr yn cael ei ddyblygu ar draws gwahanol sefydliadau?
Bydd ein system yn cyfuno Rhif Cyfeirio’r Dysgwr a nodir gan y dysgwr gyda chod ID y darparydd i greu nodwr unigryw ar gyfer y dysgwr hwnnw, a gall ddefnyddio’r ID unigryw hwnnw i weld a yw’r dysgwr wedi cwblhau arolwg gwaelodlin yn barod.
Faint o amser fydd dysgwyr yn ei gymryd i gwblhau’r arolwg?
Ar sail dadansoddiad o arolygon blaenorol o gwblhawyd, dylai gymryd tua 10 munud ar gyfartaledd i ddysgwyr gwblhau’r arolwg ond rydym yn cydnabod y gallai rhai dysgwyr gymryd mwy o amser na hynny. Gall dysgwyr gwblhau’r arolwg mewn camau os ydyn nhw’n nodi eu cyfeiriadau e-bost ar y dechrau, oherwydd mae hyn yn golygu y gallwn ni anfon dolen newydd atyn nhw i’w defnyddio os ydyn nhw am roi saib ar yr arolwg a dychwelyd yn nes ymlaen at yr union fan lle’r oedden nhw wedi gorffen.
Sut mae data ein dysgwyr yn cael ei ddiogelu?
Mae gan IFF Research achrediad ISO27001:2013, sef safon aur diogelwch data, a CyberEssentials. Mae hyn yn golygu bod ein prosesau i gyd wedi eu cyfeirio tuag at gwrdd â gofynion diogelwch data tynn. Rydym yn glynu at y GDPR a bydd dysgwyr yn derbyn gwybodaeth am y ffordd y bydd eu data’n cael ei ddefnyddio, lle bydd yn cael ei storio a phryd y bydd yn cael ei ddileu, ar ddechrau’r arolwg. Mae gwybodaeth gyswllt y dysgwyr yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel yn IFF a dim ond aelodau tîm y prosiect sy’n gallu ei hagor.
Ym mha ieithoedd mae’r arolwg ar gael ynddynt?
Mae’r arolwg llawn ar gael ar-lein yn Gymraeg a Saesneg.
A yw dysgwyr yn cael unrhyw beth am gymryd rhan?
Bydd y dysgwyr sy’n cwblhau’r arolwg yn cael eu rhoi mewn cystadleuaeth i ennill iPad. Bydd un dysgwr o bob prif ddarparydd (nid is-gontractwr) yn ennill iPad.
Gyda phwy ga i gysylltu ynglŷn â’r cwestiynau?
Ar gyfer cwestiynau prosiect: IFF Research - lvsqueries@iffresearch.com
Ar gyfer cwestiynau preifatrwydd SwyddogDiogeluData@medr.cymru
